Mae’r wobr hon yn dathlu mudiadau sydd wedi mynd yr ail filltir i hybu a dathlu’r Gymraeg.
Rydyn ni’n edrych am ymdrechion sy’n ystyried ac yn dathlu’r Gymraeg o fewn gwasanaethau a diwylliant y mudiad mewn ffyrdd ystyrlon ac effeithiol.
Dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos sut maen nhw wedi cynllunio eu gweithgareddau gan ystyried yr iaith a’r gwahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud i ddefnyddwyr gwasanaethau a’r gymuned ehangach.
Cyflwyno eich enwebiad