Rhaid derbyn enwebiadau erbyn 11 am ar 30 Mehefin 2025
Dim ond un unigolyn neu grŵp gallwch chi eu henwebu ym mhob categori
Dim ond un enwebai neu grŵp y cewch chi ei enwebu ym mhob categori
Rhaid i mudiadau a grwpiau enwebedig fod wedi’u lleoli yng Nghymru neu’n gweithio yng Nghymru
Rhaid i wirfoddolwyr enwebedig naill ai fyw yng Nghymru neu wneud eu gwaith gwirfoddoli yng Nghymru
Rydym yn croesawu enwebiadau ar gyfer unigolion a grwpiau sy’n gwirfoddoli dramor ar gyfer mudiad rhyngwladol sydd wedi’i leoli yng Nghymru
Rhaid ceisio caniatâd y Prif Swyddog/Cyfarwyddwr neu Gadeirydd y mudiad a enwebwyd cyn i enwebiad gael ei gyflwyno
Rhaid ceisio caniatâd y gwirfoddolwr neu grŵp o wirfoddolwyr cyn cyflwyno’r enwebiad
Rhaid cael caniatâd rhieni gan unrhyw wirfoddolwr o dan 16 oed
Rhaid i bob ateb ymwneud â gweithgarwch diweddar (o fewn y 12 mis diwethaf)
Mae penderfyniad y beirniaid ar geisiadau yn derfynol. Mae’r beirniaid yn cadw’r hawl i beidio â gwneud dyfarniad mewn unrhyw gategori penodol os ydynt yn teimlo nad yw enwebiadau’n addas
Penderfyniad CGGC yw natur y gwobrau a gyflwynir. Ni fydd unrhyw wobrau amgen yn cael eu hystyried
Gellir trosglwyddo’r manylion a ddarperir ar y ffurflen enwebu i mudiadau partner ac i’r cyfryngau at ddibenion cyhoeddusrwydd. Os nad ydych yn fodlon i unrhyw wybodaeth gael ei rhannu yn y modd hwn neu os nad ydych yn dymuno i mudiadau cyfryngau gysylltu â’r mudiad a enwebwyd neu’r enwebwr, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl