Darwin Gray
Noddwr categori: Defnydd o’r Gymraeg
Mae Darwin Gray yn gwmni cyfreithiol masnachol arobryn sy’n darparu cyngor cyfreithiol wedi’i deilwra i unigolion a busnesau. Mae Darwin Gray yn falch o wasanaethu busnesau a sefydliadau ledled Cymru o’n swyddfeydd yng Nghaerdydd ac Ynys Môn.
Rydym yn gweithredu ar ran llawer o fudiadau yn y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus ledled Cymru. Rydym yn aml yn cynghori cleientiaid yn Saesneg, yn Gymraeg neu’n ddwyieithog ac yn cynnal sesiynau hyfforddi rheolaidd yn benodol ar gyfer y sectorau hyn. Yn ogystal â darparu cyngor ar faterion cyfraith cyflogaeth, rydym hefyd yn cynghori elusennau a mudiadau gwirfoddol eraill ar faterion llywodraethu.
Fel cwmni cyfreithiol blaenllaw sy’n darparu gwasanaethau dwyieithog, rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi gwobr Defnydd o’r Gymraeg yng Ngwobrau Elusennau Cymru.