Cymerwch ran yng Ngwobrau Elusennau Cymru i roi sylw i’ch hoff fudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr a rhoi’r cyfle iddynt gael ychydig o gydnabyddiaeth haeddiannol a noson i’w chofio!

  • Cydnabod – p’un ai y byddwch chi’n ennill gwobr neu’n cyrraedd y rownd derfynol, mae cael eich enwebu am wobr yn dangos i’ch mudiad neu unigolyn bod ei waith yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr
  • Dathlu – treuliwch amser yn dathlu llwyddiant eich tîm (neu wirfoddolwr arbennig) gyda chyfle i bawb yn y rownd derfynol ddod i’n seremoni wobrwyo odidog
  • Rhowch sylw i chi’ch hun – gall gyrraedd rownd derfynol y gwobrau godi eich proffil yn fawr, o gael sylw yn y cyfryngau i ddangos ansawdd eich gwaith i gyllidwyr a phenderfynwyr
cyWelsh