Teilyngwyr
Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Elusennau Cymru 2025
Diolch o galon i bawb a gymerodd ran a gwneud enwebiad eleni. Cawsom nifer anhygoel o enwebiadau o ansawdd uchel, a bu’n dipyn o dasg i’n panel beirniadu annibynnol!
Mae’r wobr hon yn anrhydeddu mudiadau sydd wedi mynd y tu hwnt i’w nodau craidd i ymwreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth ym mhopeth y maen nhw wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rydyn ni eisiau cydnabod ymdrechion sy’n herio anghydraddoldeb ac yn gyrru newid diwylliannol. Waeth a yw wedi’i wneud drwy bolisi, ymarfer neu fentrau arloesol, dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos effaith ystyrlon eu gwaith ar bobl a chymunedau. Cyflwyno eich enwebiadHyrwyddwr amrywiaeth:
Enillydd 2025
Enillydd 2025
KIRAN Cymru
Mae KIRAN Cymru yn fudiad llawr gwlad bychan ond dylanwadol yng Nghymru sy’n ymladd hiliaeth drwy brosiectau amrywiol.

Mae’r wobr hon yn taflu goleuni ar unigolion, timau neu fudiadau sydd wedi gwneud ymdrech eithriadol yn ddiweddar i godi arian neu gynhyrchu incwm.
Rydyn ni’n chwilio am weithredwyr creadigol a phobl sy’n meddwl yn strategol sydd nid yn unig wedi denu arian hanfodol drwy eu hymdrechion, ond sydd hefyd wedi gosod y sylfaen ar gyfer ymdrechion codi arian llwyddiannus yn y dyfodol a chyflwyno buddion ehangach. Dywedwch wrthym ni sut gwnaeth eu syniadau, cynlluniau a’u gweithrediad arwain at lwyddiant a chael effaith bositif ar eu hachos, mudiad neu gymuned. Cyflwyno eich enwebiadCodwr arian y flwyddyn:
Enillydd 2025
Enillydd 2025
Ymddiriedolaeth y Plwyf
Gwnaeth Ymddiriedolaeth y Plwyf drawsnewid argyfwng posibl yn llwyddiant codi arian anhygoel, ar ôl codi dros £300,000 i adnewyddu cartref oedd newydd ei roi iddynt, Neuadd y Bryn.

Mae’r wobr hon yn dathlu mudiadau sydd wedi gwneud gwahaniaeth mesuradwy i iechyd a lles meddyliol neu gorfforol pobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Boed hynny drwy wasanaethau, ymgyrchoedd neu allgymorth creadigol, rydyn ni’n chwilio am ymdrechion sydd wedi mynd y tu hwnt i nodau craidd y mudiad. Dywedwch wrthym ni sut mae’r gwaith hwn wedi arwain at welliannau go iawn ym mywydau pobl a’r dulliau arloesol a ddefnyddiwyd i gyflawni hynny. Cyflwyno eich enwebiadIechyd a lles:
Enillydd 2025
Enillydd 2025
Tŷ Brynawel
Elusen adfer ar ôl caethiwed arbenigol yn Rhondda Cynon Taf yw Tŷ Brynawel sydd wedi cefnogi 190 o bobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon drwy driniaeth ac ôl-ofal preswyl.

Mae’r wobr hon yn cydnabod mudiadau bach ond beiddgar (gyda llai na £250,000 o incwm blynyddol) sy’n perfformio’n well na’r disgwyl.
Rydyn ni eisiau clywed am sut mae eich tîm wedi cyflawni pethau gwych yn ystod y flwyddyn ddiwethaf — o ddylanwadu ar bolisi neu ymarfer i greu newid mawr gydag adnoddau cyfyngedig. Dangoswch i ni sut mae eich arloesedd, cydweithrediad a’ch defnydd o brofiadau bywyd wedi cael effaith ystyrlon. Cyflwyno eich enwebiadMudiad bach mwyaf dylanwadol:
Enillydd 2025
Enillydd 2025
BulliesOut
Gyda dim ond dau aelod rhan-amser o staff, dau hyfforddwr a 15 o wirfoddolwyr, mae BulliesOut wedi bod yn ‘ffagl gobaith’ i 19,000 o blant ar draws 155 o ysgolion yn 2024.

Mae’r wobr hon yn mynd i fudiad sy’n dangos rhagoriaeth ym mhob maes – effaith, arweinyddiaeth, llywodraethu, arloesedd a chynhwysiant.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bydd y mudiad hwn wedi cyflawni canlyniadau rhagorol a chreu newid positif, parhaol i unigolion neu gymunedau. Dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos sut maen nhw wedi cynnal safonau uchel wrth gofleidio arloesedd, gwydnwch, cydraddoldeb, amrywiaeth, gwrth-hiliaeth a’r Gymraeg – a chael effaith ystyrlon ar yr un pryd. Cyflwyno eich enwebiadMudiad y flwyddyn:
Enillydd 2025
Enillydd 2025
ScoutsCymru
Mae ScoutsCymru wedi’i enwebu am ei arweinyddiaeth fodern a’i lywodraethiant arloesol.

Mae’r wobr hon yn dathlu mudiadau sydd wedi mynd yr ail filltir i hybu a dathlu’r Gymraeg.
Rydyn ni’n edrych am ymdrechion sy’n ystyried ac yn dathlu’r Gymraeg o fewn gwasanaethau a diwylliant y mudiad mewn ffyrdd ystyrlon ac effeithiol. Dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos sut maen nhw wedi cynllunio eu gweithgareddau gan ystyried yr iaith a’r gwahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud i ddefnyddwyr gwasanaethau a’r gymuned ehangach. Cyflwyno eich enwebiadDefnydd o’r Gymraeg:
Enillydd 2025
Enillydd 2025
GISDA
Mae GISDA wedi mynd y tu hwnt i'w nodau craidd i hyrwyddo'r Gymraeg eleni gyda Chomisiynydd y Gymraeg eisoes wedi dewis y mudiad ar gyfer Wythnos Cynnig Cymraeg.

Mae’r wobr hon yn dathlu unigolion hynod sydd wedi gwneud gwahaniaeth pwerus a pharhaol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy eu gwirfoddoli.
Waeth a ydynt wedi ysbrydoli eraill, cymryd yr awenau, neu fynd yr ail filltir yn ddistaw bach, rydyn ni eisiau clywed am sut mae’r pethau y maen nhw wedi’u gwneud wedi cael effaith ystyrlon, go iawn. Dylai’r rheini a enwebir ddangos sut mae eu hymroddiad wedi achosi newid positif i unigolion, cymunedau neu’r amgylchedd – yn arbennig drwy ymdrech eithriadol a mynd y tu hwnt i bob disgwyl. Cyflwyno eich enwebiadGwirfoddolwr y flwyddyn (26 oed neu’n hŷn):
Enillydd 2025
Enillydd 2025
Mojisola Olateju
Mojisola Olateju is a dedicated Swansea-based volunteer for several organisations who is nominated by the African Community Centre for her role supporting women from Black, Asian, and Minority Ethnic backgrounds.

Mae’r wobr hon yn cydnabod pobl ifanc eithriadol sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy eu gwirfoddoli.
Waeth a ydynt wedi bod yn arwain yn feiddgar, yn cynorthwyo y tu ôl i’r llenni neu’n sbarduno newid, rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr ifanc sydd wedi mynd yr ail filltir i gael effaith go iawn. Rydyn ni eisiau gweld sut mae’r pethau y maen nhw wedi’u gwneud wedi gwella bywydau, ysbrydoli eraill a gwneud cymunedau’n gryfach – yn hytrach na’r oriau y maen nhw wedi gweithio. Cyflwyno eich enwebiadGwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed neu iau):
Enillydd 2025
Enillydd 2025
Francesco Lanzi
Undeb Aberystwyth
Mae Francesco Lanzi yn gwirfoddoli i liaws o fudiadau, gan gynnwys Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, St John Ambulance a Cymru Sport.

Ennillwyr & Teilyngwyr 2024
Yn y seremoni wobrwyo ar 25 Tachwedd 2024 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gwnaethom ddathlu’r holl deilyngwyr gwych a chyhoeddi enillwyr. Llywyddwyd y seremoni gan y newyddiadurwr a chyflwynwyd BBC, Jennifer Jones, a gwnaeth yr actor Michael Sheen, Llywydd CGGC, hefyd fynychu’r noson ac annerch y teilynwyr.
Mae’r wobr hon yn anrhydeddu mudiadau sydd wedi mynd y tu hwnt i’w nodau craidd i ymwreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth ym mhopeth y maen nhw wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rydyn ni eisiau cydnabod ymdrechion sy’n herio anghydraddoldeb ac yn gyrru newid diwylliannol. Waeth a yw wedi’i wneud drwy bolisi, ymarfer neu fentrau arloesol, dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos effaith ystyrlon eu gwaith ar bobl a chymunedau. Cyflwyno eich enwebiadHyrwyddwr amrywiaeth:
Enillydd 2024
Enillydd 2024
Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin wedi profi ei hun yn arweinydd o ran hyrwyddo tegwch a pherthyn i Gymru, wrth hybu amrywiaeth, cydraddoldeb a gwrth-hiliaeth mewn gwasanaethau plentyndod cynnar cyfrwng Cymraeg fel hyfforddiant, adnoddau diwylliannol amrywiol, a mentrau cynhwysol.

Mae’r wobr hon yn taflu goleuni ar unigolion, timau neu fudiadau sydd wedi gwneud ymdrech eithriadol yn ddiweddar i godi arian neu gynhyrchu incwm.
Rydyn ni’n chwilio am weithredwyr creadigol a phobl sy’n meddwl yn strategol sydd nid yn unig wedi denu arian hanfodol drwy eu hymdrechion, ond sydd hefyd wedi gosod y sylfaen ar gyfer ymdrechion codi arian llwyddiannus yn y dyfodol a chyflwyno buddion ehangach. Dywedwch wrthym ni sut gwnaeth eu syniadau, cynlluniau a’u gweithrediad arwain at lwyddiant a chael effaith bositif ar eu hachos, mudiad neu gymuned. Cyflwyno eich enwebiadCodwr arian y flwyddyn:
Enillydd 2024
Enillydd 2024
Diabetes UK Cymru, ymgyrch 'Ailysgrifennu Stori Peter'
Cododd Beth dros £100k i Diabetes UK Cymru fel rhan o’i hymgyrch ‘Ailysgrifennu Stori Peter’, er cof am ei mab Peter.

Mae’r wobr hon yn dathlu unigolion hynod sydd wedi gwneud gwahaniaeth pwerus a pharhaol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy eu gwirfoddoli.
Waeth a ydynt wedi ysbrydoli eraill, cymryd yr awenau, neu fynd yr ail filltir yn ddistaw bach, rydyn ni eisiau clywed am sut mae’r pethau y maen nhw wedi’u gwneud wedi cael effaith ystyrlon, go iawn. Dylai’r rheini a enwebir ddangos sut mae eu hymroddiad wedi achosi newid positif i unigolion, cymunedau neu’r amgylchedd – yn arbennig drwy ymdrech eithriadol a mynd y tu hwnt i bob disgwyl. Cyflwyno eich enwebiadGwirfoddolwr y flwyddyn (26 oed neu’n hŷn):
Enillydd 2024
Enillydd 2024
Carmen Soraya Kelly
Mae Carmen Soraya Kelly wedi cael effaith anhygoel, wrth ddarparu adnoddau hanfodol a rhaglenni mentora i rymuso pobl ifanc.

Mae’r wobr hon yn cydnabod pobl ifanc eithriadol sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy eu gwirfoddoli.
Waeth a ydynt wedi bod yn arwain yn feiddgar, yn cynorthwyo y tu ôl i’r llenni neu’n sbarduno newid, rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr ifanc sydd wedi mynd yr ail filltir i gael effaith go iawn. Rydyn ni eisiau gweld sut mae’r pethau y maen nhw wedi’u gwneud wedi gwella bywydau, ysbrydoli eraill a gwneud cymunedau’n gryfach – yn hytrach na’r oriau y maen nhw wedi gweithio. Cyflwyno eich enwebiadGwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed neu iau):
Enillydd 2024
Enillydd 2024
Molly Fenton
Molly Fenton yn wirfoddolwraig ifanc ysbrydoledig ac yn sylfaenydd yr ymgyrch eiriolaeth ‘Love Your Period’, sy’n hyrwyddo iechyd mislif yng Nghymru.

Mae’r wobr hon yn dathlu mudiadau sydd wedi mynd yr ail filltir i hybu a dathlu’r Gymraeg.
Rydyn ni’n edrych am ymdrechion sy’n ystyried ac yn dathlu’r Gymraeg o fewn gwasanaethau a diwylliant y mudiad mewn ffyrdd ystyrlon ac effeithiol. Dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos sut maen nhw wedi cynllunio eu gweithgareddau gan ystyried yr iaith a’r gwahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud i ddefnyddwyr gwasanaethau a’r gymuned ehangach. Cyflwyno eich enwebiadDefnydd o’r Gymraeg:
Enillydd 2024
Enillydd 2024
Y Bartneriaeth Awyr Agored
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn elusen ddwyieithog sy’n grymuso cymunedau Cymraeg eu hiaith i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored trwy fentrau fel Bant â Ni.

Mae’r wobr hon yn cydnabod mudiadau bach ond beiddgar (gyda llai na £250,000 o incwm blynyddol) sy’n perfformio’n well na’r disgwyl.
Rydyn ni eisiau clywed am sut mae eich tîm wedi cyflawni pethau gwych yn ystod y flwyddyn ddiwethaf — o ddylanwadu ar bolisi neu ymarfer i greu newid mawr gydag adnoddau cyfyngedig. Dangoswch i ni sut mae eich arloesedd, cydweithrediad a’ch defnydd o brofiadau bywyd wedi cael effaith ystyrlon. Cyflwyno eich enwebiadMudiad bach mwyaf dylanwadol:
Enillydd 2024
Enillydd 2024
Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
Mae Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) wedi dylanwadu’n sylweddol ar ofal iechyd menywod yng Nghymru drwy ymgyrchu dros newidiadau polisi a grymuso unigolion.

Mae’r wobr hon yn dathlu mudiadau sydd wedi gwneud gwahaniaeth mesuradwy i iechyd a lles meddyliol neu gorfforol pobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Boed hynny drwy wasanaethau, ymgyrchoedd neu allgymorth creadigol, rydyn ni’n chwilio am ymdrechion sydd wedi mynd y tu hwnt i nodau craidd y mudiad. Dywedwch wrthym ni sut mae’r gwaith hwn wedi arwain at welliannau go iawn ym mywydau pobl a’r dulliau arloesol a ddefnyddiwyd i gyflawni hynny. Cyflwyno eich enwebiadIechyd a lles:
Enillydd 2024
Enillydd 2024
St Giles Cymru – Prosiect ‘Aspiring Champions’
St Giles – Prosiect Darpar Hyrwyddwyr
Mae ‘Prosiect Darpar Hyrwyddwyr’ St Giles Cymru yn cefnogi mamau ifanc bregus (14 -24) y Rhyl, helpu i dorri’r cylch tlodi, caethiwed a cham-drin.

Mae’r wobr hon yn mynd i fudiad sy’n dangos rhagoriaeth ym mhob maes – effaith, arweinyddiaeth, llywodraethu, arloesedd a chynhwysiant.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bydd y mudiad hwn wedi cyflawni canlyniadau rhagorol a chreu newid positif, parhaol i unigolion neu gymunedau. Dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos sut maen nhw wedi cynnal safonau uchel wrth gofleidio arloesedd, gwydnwch, cydraddoldeb, amrywiaeth, gwrth-hiliaeth a’r Gymraeg – a chael effaith ystyrlon ar yr un pryd. Cyflwyno eich enwebiadMudiad y flwyddyn:
Enillydd 2024
Enillydd 2024
FareShare Cymru
Mae FareShare Cymru yn troi problem amgylcheddol i fod yn ateb cymdeithasol drwy raglenni arloesol, cynhwysol a chynaliadwy sy’n ailddosbarthu bwyd dros ben.














