Mae’r wobr hon yn dathlu unigolion hynod sydd wedi gwneud gwahaniaeth pwerus a pharhaol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy eu gwirfoddoli.
Waeth a ydynt wedi ysbrydoli eraill, cymryd yr awenau, neu fynd yr ail filltir yn ddistaw bach, rydyn ni eisiau clywed am sut mae’r pethau y maen nhw wedi’u gwneud wedi cael effaith ystyrlon, go iawn.
Dylai’r rheini a enwebir ddangos sut mae eu hymroddiad wedi achosi newid positif i unigolion, cymunedau neu’r amgylchedd – yn arbennig drwy ymdrech eithriadol a mynd y tu hwnt i bob disgwyl.
Cyflwyno eich enwebiad