Hedyn
Noddwr categori: Codwr arian y flwyddyn
Mae’r enw Hedyn, y man cychwyn, yn cynrychioli ein huchelgais i wneud y peth iawn, gwneud iddo ddigwydd, a gwneud gwahaniaeth yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae Hedyn yn bodoli i ddefnyddio’r arbenigedd a rennir gennym i greu rhywbeth mwy. Ein gweledigaeth yw helpu i adeiladu cymunedau cysylltiedig lle gall pawb fyw’n dda.
Rydym eisiau i’n trigolion ffynnu, gan sicrhau dyfodol mwy diogel a disglair i ni a’r rhai a fydd yn dod ar ein holau. Rydym am rannu’r weledigaeth hon gyda’r rhai sy’n rhannu ein haddewid – mae ein nawdd yng nghategori Codwr Arian y Flwyddyn yn dangos ein hymrwymiad i’r rhai sydd am wneud gwahaniaeth i’w cymunedau.