Noddwr categori: Codwr arian y flwyddyn

Mae Utility Aid yn bodoli i helpu elusennau a mudiadau nid-er-elw i ddod o hyd i ynni. Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a’n profiad. Yn rhagweld a datrys problemau. Uwchlaw popeth, mae pawb yn Utility Aid yn unedig yn eu hawydd i wneud mwy o dda i’n rhanddeiliaid, ac mae hynny’n ein gwneud yn wahanol o ran y ffordd rydym ni fel busnes.

Rydym wedi bod yn helpu elusennau a mudiadau nid-er-elw i leihau eu costau ynni ers dros 20 mlynedd. Mae hyn yn cynnwys adennill gordaliadau, rheoli’r gwaith gweinyddol a chynghori ar bob mater sy’n ymwneud ag ynni. Mae ein cwsmeriaid yn cynnwys cymdeithasau tai a grwpiau cymunedol, ysgolion, eglwysi a gwasanaethau cymorth rheng flaen.

Mae Utility Aid wrth eu bodd o fod yn cefnogi Gwobrau Elusennau Cymru eleni, yn enwedig gwobr Codwr Arian y flwyddyn. Mae gweld cenadaethau uchelgeisiol ac arloesol pob elusen sydd wedi cyrraedd y rhestr fer wedi bod yn ysbrydoledig. Rydym yn deall yr effaith enfawr y mae elusennau a grwpiau gwirfoddol yn ei chael ar gymunedau ac ni ddylem fyth gymryd hynny’n ganiataol!

cyWelsh