Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Noddwr categori: Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y flwyddyn
Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym yn credu bod popeth yn dechrau gyda chymuned. Dyna pwy rydym ni’n eu gwasanaethu, a dyna ble y byddwch chi’n dod o hyd i ni, ym mhob cwr o’r wlad. Nod ein cyllid yw rhoi’r pŵer i bobl adeiladu a chryfhau eu cymuned, drwy eu cefnogi i ddod ynghyd a gwella bywydau. Rydym wedi gweithio o fewn ac ochr yn ochr â chymunedau yng Nghymru ers y 30 mlynedd ddiwethaf, ac yn ymrwymedig i gefnogi’r bobl mewn angen mwyaf. Rydym yn gwneud penderfyniadau yn lleol, oherwydd y ffordd orau o gefnogi cymunedau yw drwy ddeall yr hyn sydd o bennaf bwys iddynt.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn falch iawn o gefnogi Gwobrau Elusennau Cymru, sy’n cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae pobl a mudiadau gwirfoddol yn ei wneud i’w cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Rydym yn arbennig o falch o fod yn cefnogi gwobr Gwirfoddolwyr ifanc y flwyddyn. Cefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi bod wrth wraidd ein gwaith ers tro byd, ac mae’r wobr hon yn amlygu rhai o’r bobl ifanc mwyaf ysbrydoledig sy’n rhoi o’u hamser yn hael i helpu pobl eraill a gwneud Cymru yn lle gwell. Mae’n adlewyrchu un o’n pedair cenhadaeth graidd: Byddwn yn cefnogi cymunedau i helpu plant a phobl ifanc i ffynnu.