Noddwr categori: Defnydd o’r Gymraeg

Mae Darwin Gray yn gwmni gwobrwyol o arbenigwyr cyfreithiol sy’n rhoi cyngor cyfreithiol wedi’i deilwra i unigolion a busnesau. Fel cwmni gwirioneddol Cymru gyfan, mae Darwin Gray yn falch o wasanaethu busnesau a mudiadau ledled Cymru, o gartrefi’r ddau ohonom ni yng Nghaerdydd a Bangor.

Rydym yn falch o wasanaethu ein cleientiaid a chefnogi ein cymuned, gydag uniondeb a thegwch wrth wraidd popeth a wnawn.

Rydym yn gweithredu dros nifer o fudiadau yn y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus, ym mhob rhan o Gymru. Yn aml, byddwn yn cynghori’r cleientiaid hyn yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog ac yn cynnal sesiynau hyfforddi rheolaidd ar gyfer y sectorau hyn. Yn ogystal â rhoi cyngor ar faterion sy’n ymwneud â chyfraith cyflogaeth, rydym hefyd yn cynghori elusennau a mudiadau gwirfoddol eraill ar eu materion llywodraethu.

Fel un o’r prif gwmnïau cyfreithiol sy’n darparu gwasanaethau dwyieithog, rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi’r wobr Defnydd o’r Gymraeg yng Ngwobrau Elusennau Cymru.

cyWelsh