Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Noddwr categori: Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn (25 oed neu iau)
Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym yn gweithio o fewn cymunedau ledled Cymru ac ochr yn ochr â nhw i gryfhau cymdeithas ac adeiladu dyfodol gwell.
Mae ein timau cyllido wedi’u lleoli ledled Cymru, gan gefnogi cymunedau lle mae’r angen mwyaf. Ond mae a wnelo ein gwaith â mwy na chyllid. Rydym yn gwrando, yn dysgu ac yn rhannu gwybodaeth fel bod cymunedau yn gallu tyfu a phrosiectau yn gallu mynd o nerth i nerth. Ar y cyd â chymunedau, rydym yn troi syniadau yn ganlyniadau go iawn sy’n newid bywydau.
Rydym yn falch iawn o gefnogi gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn, sy’n adlewyrchu ein cenhadaeth strategol i gefnogi cymunedau i helpu plant a phobl ifanc i ffynnu.