Noddwr categori: Gwirfoddolwr y flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed neu’n hŷn)

Mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru, sef cangen fenthyca CGGC, wedi bod yn darparu cyllid benthyciadau i’r sector gwirfoddol yng Nghymru ers 20 mlynedd.

Fel arfer, mae ymddiriedolwyr a byrddau’r rhai rydym yn eu cynorthwyo i gyd yn cynnwys gwirfoddolwyr sydd â phrofiad a sgiliau maent yn fwy na pharod i’w rhannu. Cyfreithiol, ariannol, TG, marchnata, adnoddau dynol, masnachol – mae’r rhestr o sgiliau sydd ganddynt yn hanfodol.

Heb hyn, gall mudiadau gwirfoddol, y mae llawer ohonyn nhw eu hunain yn dibynnu ar sgiliau a haelioni gwirfoddolwyr i ddarparu eu gwasanaethau, ei chael hi’n anodd sicrhau llywodraethu cryf, sy’n ffactor allweddol yn y penderfyniad benthyca. Rydym yn falch iawn o noddi’r categori hwn i gydnabod ymdrechion yr holl wirfoddolwyr, nid dim ond y rhai ar lefel bwrdd, sy’n sicrhau bod eu mudiadau yn asedau hanfodol a gwerthfawr yn eu cymunedau.

cyWelsh