David Uche Iyamu
Gan ddangos empathi ac arweinyddiaeth amhrisiadwy, mae David Uche, sy’n 17 oed, yn gwneud taith gron o 24 milltir bob dydd i wirfoddoli yn y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd er mwyn croesawu pobl newydd, sy’n aml yn geiswyr lloches a ffoaduriaid.
2025
Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed neu iau)
(Finalydd)
Mae cyfraniad David yn ymestyn y tu hwnt i’w ddyletswyddau arferol. Fe ei hun gyflwynodd y syniad o gael cwnselydd i helpu cyfranogwyr yn y clwb ieuenctid wythnosol, mae wedi trefnu gweithgareddau - gan gynnwys taith breswyl i 75 o bobl ifanc, a chydgynllunio ap iechyd meddwl.