Mae Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan CGGC, yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau dielw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth cadarnhaol y gallwn ei wneud i fywydau ein gilydd.

Bydd enwebiadau ar gyfer y gwobrau yn agor ar 15 Ebrill 2026. Bydd y seremoni yn cael ei chynnal ar 16 Hydref 2026 yn Gwesty'r Hilton, Caerdydd, ac rydyn ni eisoes yn disgwyl noson drawiadol o ddathlu!

Mae’n hollol rhad ac am ddim i gymryd rhan yng Ngwobrau Elusennau Cymru diolch i gefnogaeth garedig ein noddwyr.

Welsh Charity Pic 1

Key dates for 2026

  • Nominations open – 15 Ebrill 2026
  • Closing date for nominations – 29 Mehefin 2026
  • Finalists receive notification – 4 Medi 2026
  • Awards ceremony in Cardiff – 15 Hydref 2026
Awards Indented header element

Pam enwebu

Cymerwch ran yng Ngwobrau Elusennau Cymru i roi sylw i’ch hoff fudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr a rhoi’r cyfle iddynt gael ychydig o gydnabyddiaeth haeddiannol a noson i’w chofio!

  • Cydnabod – p’un ai y byddwch chi’n ennill gwobr neu’n cyrraedd y rownd derfynol, mae cael eich enwebu am wobr yn dangos i’ch mudiad neu unigolyn bod ei waith yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr
  • Dathlu – treuliwch amser yn dathlu llwyddiant eich tîm (neu wirfoddolwr arbennig) gyda chyfle i bawb yn y rownd derfynol ddod i’n seremoni wobrwyo odidog
  • Rhowch sylw i chi’ch hun – gall gyrraedd rownd derfynol y gwobrau godi eich proffil yn fawr, o gael sylw yn y cyfryngau i ddangos ansawdd eich gwaith i gyllidwyr a phenderfynwyr
Awards Indented header element
cyWelsh