Ymuno gyda’n rhestr bostio!
Ennillwyr & Teilyngwyr 2024
Yn y seremoni wobrwyo ar 25 Tachwedd 2024 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gwnaethom ddathlu’r holl deilyngwyr gwych a chyhoeddi enillwyr. Llywyddwyd y seremoni gan y newyddiadurwr a chyflwynwyd BBC, Jennifer Jones, a gwnaeth yr actor Michael Sheen, Llywydd CGGC, hefyd fynychu’r noson ac annerch y teilynwyr.
Daliwch ati i ddarllen i ddarganfod pwy yw enillwyr a teilyngwyr Gwobrau Elusennau Cymru 2024.
Categorïau gwobrau
Mae’r wobr hon yn dathlu unigolion hynod sydd wedi gwneud gwahaniaeth pwerus a pharhaol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy eu gwirfoddoli. Waeth a ydynt wedi ysbrydoli eraill, cymryd yr awenau, neu fynd yr ail filltir yn ddistaw bach, rydyn ni eisiau clywed am sut mae’r pethau y maen nhw wedi’u gwneud wedi cael effaith ystyrlon, go iawn.
Dylai’r rheini a enwebir ddangos sut mae eu hymroddiad wedi achosi newid positif i unigolion, cymunedau neu’r amgylchedd – yn arbennig drwy ymdrech eithriadol a mynd y tu hwnt i bob disgwyl.
Mae’r wobr hon yn cydnabod pobl ifanc eithriadol sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy eu gwirfoddoli. Waeth a ydynt wedi bod yn arwain yn feiddgar, yn cynorthwyo y tu ôl i’r llenni neu’n sbarduno newid, rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr ifanc sydd wedi mynd yr ail filltir i gael effaith go iawn.
Rydyn ni eisiau gweld sut mae’r pethau y maen nhw wedi’u gwneud wedi gwella bywydau, ysbrydoli eraill a gwneud cymunedau’n gryfach – yn hytrach na’r oriau y maen nhw wedi gweithio.
Mae’r wobr hon yn taflu goleuni ar unigolion, timau neu fudiadau sydd wedi gwneud ymdrech eithriadol yn ddiweddar i godi arian neu gynhyrchu incwm. Rydyn ni’n chwilio am weithredwyr creadigol a phobl sy’n meddwl yn strategol sydd nid yn unig wedi denu arian hanfodol drwy eu hymdrechion, ond sydd hefyd wedi gosod y sylfaen ar gyfer ymdrechion codi arian llwyddiannus yn y dyfodol a chyflwyno buddion ehangach.
Dywedwch wrthym ni sut gwnaeth eu syniadau, cynlluniau a’u gweithrediad arwain at lwyddiant a chael effaith bositif ar eu hachos, mudiad neu gymuned.
Mae’r wobr hon yn anrhydeddu mudiadau sydd wedi mynd y tu hwnt i’w nodau craidd i ymwreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth ym mhopeth y maen nhw wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydyn ni eisiau cydnabod ymdrechion sy’n herio anghydraddoldeb ac yn gyrru newid diwylliannol.
Waeth a yw wedi’i wneud drwy bolisi, ymarfer neu fentrau arloesol, dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos effaith ystyrlon eu gwaith ar bobl a chymunedau.
Mae’r wobr hon yn dathlu mudiadau sydd wedi mynd yr ail filltir i hybu a dathlu’r Gymraeg. Rydyn ni’n edrych am ymdrechion sy’n ystyried ac yn dathlu’r Gymraeg o fewn gwasanaethau a diwylliant y mudiad mewn ffyrdd ystyrlon ac effeithiol.
Dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos sut maen nhw wedi cynllunio eu gweithgareddau gan ystyried yr iaith a’r gwahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud i ddefnyddwyr gwasanaethau a’r gymuned ehangach
Mae’r wobr hon yn cydnabod mudiadau bach ond beiddgar (gyda llai na £250,000 o incwm blynyddol) sy’n perfformio’n well na’r disgwyl. Rydyn ni eisiau clywed am sut mae eich tîm wedi cyflawni pethau gwych yn ystod y flwyddyn ddiwethaf — o ddylanwadu ar bolisi neu ymarfer i greu newid mawr gydag adnoddau cyfyngedig.
Dangoswch i ni sut mae eich arloesedd, cydweithrediad a’ch defnydd o brofiadau bywyd wedi cael effaith ystyrlon.
Mae’r wobr hon yn dathlu mudiadau sydd wedi gwneud gwahaniaeth mesuradwy i iechyd a lles meddyliol neu gorfforol pobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Boed hynny drwy wasanaethau, ymgyrchoedd neu allgymorth creadigol, rydyn ni’n chwilio am ymdrechion sydd wedi mynd y tu hwnt i nodau craidd y mudiad.
Dywedwch wrthym ni sut mae’r gwaith hwn wedi arwain at welliannau go iawn ym mywydau pobl a’r dulliau arloesol a ddefnyddiwyd i gyflawni hynny.
Mae’r wobr hon yn mynd i fudiad sy’n dangos rhagoriaeth ym mhob maes – effaith, arweinyddiaeth, llywodraethu, arloesedd a chynhwysiant. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bydd y mudiad hwn wedi cyflawni canlyniadau rhagorol a chreu newid positif, parhaol i unigolion neu gymunedau.
Dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos sut maen nhw wedi cynnal safonau uchel wrth gofleidio arloesedd, gwydnwch, cydraddoldeb, amrywiaeth, gwrth-hiliaeth a’r Gymraeg – a chael effaith ystyrlon ar yr un pryd.