Mae’r wobr hon yn taflu goleuni ar unigolion, timau neu fudiadau sydd wedi gwneud ymdrech eithriadol yn ddiweddar i godi arian neu gynhyrchu incwm.

Rydyn ni’n chwilio am weithredwyr creadigol a phobl sy’n meddwl yn strategol sydd nid yn unig wedi denu arian hanfodol drwy eu hymdrechion, ond sydd hefyd wedi gosod y sylfaen ar gyfer ymdrechion codi arian llwyddiannus yn y dyfodol a chyflwyno buddion ehangach. Dywedwch wrthym ni sut gwnaeth eu syniadau, cynlluniau a’u gweithrediad arwain at lwyddiant a chael effaith bositif ar eu hachos, mudiad neu gymuned. Cyflwyno eich enwebiad

Winners and Finalists

Codwr arian y flwyddyn:
Enillydd 2025

Ymddiriedolaeth y Plwyf

Ymddiriedolaeth y Plwyf
Gwnaeth Ymddiriedolaeth y Plwyf drawsnewid argyfwng posibl yn llwyddiant codi arian anhygoel, ar ôl codi dros £300,000 i adnewyddu cartref oedd newydd ei roi iddynt, Neuadd y Bryn.
Codwr arian y flwyddyn:
Enillydd 2024

Diabetes UK Cymru, ymgyrch 'Ailysgrifennu Stori Peter'

Cododd Beth dros £100k i Diabetes UK Cymru fel rhan o’i hymgyrch ‘Ailysgrifennu Stori Peter’, er cof am ei mab Peter.
cyWelsh