Mae Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan CGGC, yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau dielw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth cadarnhaol y gallwn ei wneud i fywydau ein gilydd.

Mae’r enwebiadau ar gyfer y gwobrau ar agor nawr a byddant yn cau ar 30 Mehefin 2025. Bydd y seremoni yn cael ei chynnal ar 16 Hydref 2025 yn Stadiwm y Principality, Caerdydd, ac rydyn ni eisoes yn disgwyl noson drawiadol o ddathlu!

Mae’n hollol rhad ac am ddim i gymryd rhan yng Ngwobrau Elusennau Cymru diolch i gefnogaeth garedig ein noddwyr.

Welsh Charity Pic 1

Dyddiadau allweddol 2025

  • Cyfnod enwebu’n agor – 19 Mai 2025
  • Cyfnod enwebu’n cau – 30 Mehefin 2025
  • Rhestr fer yn derbyn hysbysiad – 5 Medi 2025
  • Seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd – 16 Hydref 2025
Awards Indented header element

Pam enwebu

Cymerwch ran yng Ngwobrau Elusennau Cymru i roi sylw i’ch hoff fudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr a rhoi’r cyfle iddynt gael ychydig o gydnabyddiaeth haeddiannol a noson i’w chofio!

  • Cydnabod – p’un ai y byddwch chi’n ennill gwobr neu’n cyrraedd y rownd derfynol, mae cael eich enwebu am wobr yn dangos i’ch mudiad neu unigolyn bod ei waith yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr
  • Dathlu – treuliwch amser yn dathlu llwyddiant eich tîm (neu wirfoddolwr arbennig) gyda chyfle i bawb yn y rownd derfynol ddod i’n seremoni wobrwyo odidog
  • Rhowch sylw i chi’ch hun – gall gyrraedd rownd derfynol y gwobrau godi eich proffil yn fawr, o gael sylw yn y cyfryngau i ddangos ansawdd eich gwaith i gyllidwyr a phenderfynwyr
Awards Indented header element
cyWelsh