Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Prif noddwr
Y Brifysgol Agored yw’r darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf yng Nghymru. Mae’n arweinydd byd-eang mewn cyfleoedd dysgu arloesol a hyblyg o bell ar lefel addysg uwch, yn cynnig cyrsiau israddedig, ôl-radd a mynediad.
Mae mwy na 16,000 o fyfyrwyr o bob cwr o Gymru yn astudio gennym ni ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio gyda busnesau, elusennau, undebau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i’w helpu i ddatblygu eu staff ac yn annog mwy o bobl i ymgymryd â dysgu i oedolion, waeth beth yw eu cefndir.
Mae ein pobl academaidd yn cyflwyno addysgu o ansawdd uchel i’n myfyrwyr ac mae llawer ohonynt yn dod â phrofiadau o weithio mewn diwydiant a gwasanaethau cyhoeddus. Maen nhw hefyd yn arwain ar waith ymchwil sy’n torri tir newydd, gan fynd i’r afael â materion o wella gofal iechyd i ymdrin â’r newid hinsawdd.
Mae gennym berthynas wych â’r elusennau yng Nghymru. Crëwyd ein rhaglen ar-lein, Elwa drwy Wirfoddoli, gyda’r sector gwirfoddol ac mae’n helpu gwirfoddolwyr ar hyd a lled y wlad i ddatblygu eu sgiliau a goresgyn rhwystrau i addysg. Mae noddi Gwobrau Elusennau Cymru yn tanlinellu’r cyfraniad y mae mudiadau gwirfoddol yn ei wneud, yn ein tyb ni, i ddysgu gydol oes.