Sefydliad Banc Lloyds
Noddwr categori: Mudiad bach mwyaf dylanwadol
Mae Sefydliad Banc Lloyds wedi cefnogi elusennau bach a lleol ledled Cymru ers 40 o flynyddoedd gyda chyllid a chymorth i ddatblygu.
Trwy weithio mewn partneriaeth, gwyddom y gallwn ddylanwadu ar arferion a pholisïau i fynd i’r afael â’r problemau cymhleth y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu.
Rydym yn hynod falch o gefnogi Gwobrau Elusennau Cymru a dathlu’r mudiadau bach sy’n dylanwadu ar newid mawr!