Noddwr categori: Iechyd a lles

Mae Geldards LLP yn gwmni cyfreithiol cenedlaethol yng Nghaerdydd sy’n cynnig gwasanaeth llawn. Rydym yn gweithio’n benodol i fwy na 700 o elusennau a mudiadau gwirfoddol eraill ledled y DU. Mae ein cleientiaid yn amrywio o fentrau cymdeithasol, elusennau cenedlaethol, mudiadau Siarter Frenhinol, ymddiriedolaethau elusennol, amgueddfeydd, elusennau’r celfyddydau, llochesau i’r digartref a chyrff ymbarél.

Rydym yn rhoi cymorth ar faterion cyfraith elusennol pur, gan gynnwys llywodraethu. Ond rydym hefyd yn elwa ar allu cael cyngor cyfreithwyr â gwybodaeth am gyfraith elusennau o bob rhan o wasanaethau llawn y cwmni, gan gynnwys eiddo, cyflogaeth a chyfraith fasnachol. Golyga hyn y gallwn gynorthwyo gyda’r cyngor ymarferol a masnachol sydd ei angen arnoch i gyrraedd eich nodau.

Rydym yn gweld o lygad y ffynnon yr ymroddiad a’r brwdfrydedd sy’n gyrru’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Gan hynny, rydym yn hynod falch o fod yn cefnogi Gwobrau Elusennau Cymru eleni.

cyWelsh