Noddwr categori: Hyrwyddwr amrywiaeth

Yn Bute Energy, rydym eisiau helpu i greu cenedl iachach a mwy cyfoethog sy’n cael ei phweru gan dywydd Cymru. Trwy ddatblygu ynni adnewyddadwy gwyrdd ar ein bryniau, gallwn gyflwyno twf economaidd hanfodol i gymunedau yng Nghymru trwy swyddi, sgiliau a chyllid grant.

Mae ein tîm yn gweithio’n agos gyda phobl leol i sicrhau bod cronfa budd cymunedol pob parc ynni’n cefnogi achosion da yn yr ardal – o elusennau i fudiadau nid-er-elw – a’u helpu i wneud mwy fyth o wahaniaeth.

Mae Bute Energy yn falch o noddi Gwobrau Elusennau Cymru a dathlu’r bobl a’r prosiectau ysbrydoledig wrth wraidd sector elusennol Cymru. Hoffem ddymuno pob lwc i bawb ar y noson a hyrwyddo’r holl rai hynny sy’n ymroi eu hamser a’u hegni i elusennau Cymru.

cyWelsh