Canolfan Gyfreithol y Plant Cymru
Yn ei blwyddyn gyntaf fel elusen annibynnol, mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru - gyda’i thîm o dri aelod o staff yn unig - wedi ei henwebu oherwydd ei chyrhaeddiad a’i dylanwad ledled Cymru.
2026
Mudiad bach mwyaf dylanwadol
(Enillydd)
Bydd ei rhaglen addysg yn cyrraedd dros 200 o ysgolion, wedi cefnogi’n uniongyrchol 147 o bobl ifanc sydd â phrofiad bywyd ac wedi cynyddu dealltwriaeth gyfreithiol disgyblion o 41% i 71%. Mae ei gwaith polisi hefyd wedi siapio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i archwilio gwasanaeth gwarcheidiaeth i blant sydd ar eu pennau eu hunain.