Awards Archive: 2026
Mae’r wobr hon yn anrhydeddu mudiadau sydd wedi mynd y tu hwnt i’w nodau craidd i ymwreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth ym mhopeth y maen nhw wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rydyn ni eisiau cydnabod ymdrechion sy’n herio anghydraddoldeb ac yn gyrru newid diwylliannol. Waeth a yw wedi’i wneud drwy bolisi, ymarfer neu fentrau arloesol, dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos effaith ystyrlon eu gwaith ar bobl a chymunedau.Sponsored by:

Hyrwyddwr amrywiaeth:
2026 Winner
2026 Winner
AP Cymru – The Neurodiversity Charity
Mae AP Cymru - The Neurodiversity Charity wedi ei henwebu i gydnabod ei hymrwymiad amlwg, ar draws y mudiad i gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth dros y 12 mis diwethaf ac ers ei sefydlu, o dan arweinyddiaeth ei Phrif Swyddog Gweithredol Karen Mills.

Mae’r wobr hon yn taflu goleuni ar unigolion, timau neu fudiadau sydd wedi gwneud ymdrech eithriadol yn ddiweddar i godi arian neu gynhyrchu incwm.
Rydyn ni’n chwilio am weithredwyr creadigol a phobl sy’n meddwl yn strategol sydd nid yn unig wedi denu arian hanfodol drwy eu hymdrechion, ond sydd hefyd wedi gosod y sylfaen ar gyfer ymdrechion codi arian llwyddiannus yn y dyfodol a chyflwyno buddion ehangach. Dywedwch wrthym ni sut gwnaeth eu syniadau, cynlluniau a’u gweithrediad arwain at lwyddiant a chael effaith bositif ar eu hachos, mudiad neu gymuned.Sponsored by:

Codwr arian y flwyddyn:
2026 Winner
2026 Winner
Media Academy Cymru Ltd
Mewn dim ond 12 mis, gwnaeth Media Academy Cymru Ltd ddyblu ei hincwm o £1m i £2m, gan sicrhau dyfodol hirdymor ei gwasanaethau, gan gynnwys prynu ei phencadlys blaenllaw 12,000 troedfedd sgwâr yng Nghaerdydd.

Mae’r wobr hon yn dathlu mudiadau sydd wedi gwneud gwahaniaeth mesuradwy i iechyd a lles meddyliol neu gorfforol pobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Boed hynny drwy wasanaethau, ymgyrchoedd neu allgymorth creadigol, rydyn ni’n chwilio am ymdrechion sydd wedi mynd y tu hwnt i nodau craidd y mudiad. Dywedwch wrthym ni sut mae’r gwaith hwn wedi arwain at welliannau go iawn ym mywydau pobl a’r dulliau arloesol a ddefnyddiwyd i gyflawni hynny.Sponsored by:

Iechyd a lles:
2026 Winner
2026 Winner
Gwasanaeth Cwnsela Llygad yn Llygad
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Gwasanaeth Cwnsela Llygad yn Llygad wedi bod yn achubiaeth ledled De Cymru, gan ddarparu 8,844 awr o ymyrraeth therapiwtig i 1,647 o blant a phobl ifanc yn ogystal â 398 o gleientiaid yn y gymuned.

Mae’r wobr hon yn cydnabod mudiadau bach ond beiddgar (gyda llai na £250,000 o incwm blynyddol) sy’n perfformio’n well na’r disgwyl.
Rydyn ni eisiau clywed am sut mae eich tîm wedi cyflawni pethau gwych yn ystod y flwyddyn ddiwethaf — o ddylanwadu ar bolisi neu ymarfer i greu newid mawr gydag adnoddau cyfyngedig. Dangoswch i ni sut mae eich arloesedd, cydweithrediad a’ch defnydd o brofiadau bywyd wedi cael effaith ystyrlon.Sponsored by:

Mudiad bach mwyaf dylanwadol:
2026 Winner
2026 Winner
Children’s Legal Centre Wales
Yn ei blwyddyn gyntaf fel elusen annibynnol, mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru - gyda’i thîm o dri aelod o staff yn unig - wedi ei henwebu oherwydd ei chyrhaeddiad a’i dylanwad ledled Cymru.

Mae’r wobr hon yn mynd i fudiad sy’n dangos rhagoriaeth ym mhob maes – effaith, arweinyddiaeth, llywodraethu, arloesedd a chynhwysiant.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bydd y mudiad hwn wedi cyflawni canlyniadau rhagorol a chreu newid positif, parhaol i unigolion neu gymunedau. Dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos sut maen nhw wedi cynnal safonau uchel wrth gofleidio arloesedd, gwydnwch, cydraddoldeb, amrywiaeth, gwrth-hiliaeth a’r Gymraeg – a chael effaith ystyrlon ar yr un pryd.Sponsored by:

Mudiad y flwyddyn:
2026 Winner
2026 Winner
Ymchwil Canser Cymru
Ymchwil Canser Cymru yw’r unig elusen bwrpasol ar gyfer ariannu ymchwil canser yng Nghymru, ac eleni nododd ei buddsoddiad ymchwil mwyaf yn ei hanes 60 mlynedd.

Mae’r wobr hon yn dathlu mudiadau sydd wedi mynd yr ail filltir i hybu a dathlu’r Gymraeg.
Rydyn ni’n edrych am ymdrechion sy’n ystyried ac yn dathlu’r Gymraeg o fewn gwasanaethau a diwylliant y mudiad mewn ffyrdd ystyrlon ac effeithiol. Dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos sut maen nhw wedi cynllunio eu gweithgareddau gan ystyried yr iaith a’r gwahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud i ddefnyddwyr gwasanaethau a’r gymuned ehangach.Sponsored by:

Defnydd o’r Gymraeg:
2026 Winner
2026 Winner
Arad Goch
Mae’r cwmni theatr Arad Goch, yn Aberystwyth, wedi helpu i greu ecosystem lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio, ei dathlu a’i datblygu fel iaith fyw, gan gryfhau ei defnydd bob dydd, wrth agor drysau i gyfleoedd cymdeithasol, creadigol a phroffesiynol.

Mae’r wobr hon yn dathlu unigolion hynod sydd wedi gwneud gwahaniaeth pwerus a pharhaol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy eu gwirfoddoli.
Waeth a ydynt wedi ysbrydoli eraill, cymryd yr awenau, neu fynd yr ail filltir yn ddistaw bach, rydyn ni eisiau clywed am sut mae’r pethau y maen nhw wedi’u gwneud wedi cael effaith ystyrlon, go iawn. Dylai’r rheini a enwebir ddangos sut mae eu hymroddiad wedi achosi newid positif i unigolion, cymunedau neu’r amgylchedd – yn arbennig drwy ymdrech eithriadol a mynd y tu hwnt i bob disgwyl.Sponsored by:

Gwirfoddolwr y flwyddyn (26 oed neu’n hŷn):
2026 Winner
2026 Winner
Annie Hutchings
Dechreuodd Annie Hutchings Tea & Tots pan oedd ei merch Annabel ond yn chwe mis oed. Pan gafodd Annabel ddiagnosis o anhwylder niwroddatblygiadol genetig prin iawn ychydig cyn ei phen-blwydd cyntaf, creodd Annie Tots Early Years Community, ac yna Together Tots.

Mae’r wobr hon yn cydnabod pobl ifanc eithriadol sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy eu gwirfoddoli.
Waeth a ydynt wedi bod yn arwain yn feiddgar, yn cynorthwyo y tu ôl i’r llenni neu’n sbarduno newid, rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr ifanc sydd wedi mynd yr ail filltir i gael effaith go iawn. Rydyn ni eisiau gweld sut mae’r pethau y maen nhw wedi’u gwneud wedi gwella bywydau, ysbrydoli eraill a gwneud cymunedau’n gryfach – yn hytrach na’r oriau y maen nhw wedi gweithio.Sponsored by:

Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed neu iau):
2026 Winner
2026 Winner
Bowen Cole
Mae Bowen Cole wedi neilltuo cannoedd o oriau i eiriolaeth ieuenctid, cydraddoldeb a chreu heddwch yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Mae’r wobr hon yn anrhydeddu unigolion sydd wedi cael effaith arbennig a pharhaol ar y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae’n bleser gennym gyflwyno Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield as part of the Welsh Charity Awards. This special honour recognises individuals who have made an exceptional and lasting impact on the voluntary sector in Wales. Graham Benfield was an incredibly influential voice for people and communities in Wales, with a profound impact on the voluntary sector both nationally and beyond. As Chief Executive of WCVA from 1989 to 2014, he spent 25 years transforming the landscape for voluntary organisations, championing collaboration, strengthening support structures, and helping the sector to grow in confidence and impact. This award celebrates those whose contribution goes beyond a single project or moment. It recognises individuals whose dedication, passion, and leadership have made a meaningful and enduring difference to communities across Wales. The award reflects the values Graham embodied throughout his life: selflessness, integrity, and an unwavering belief in the power of people to create positive change. By establishing this award, we hope to create a lasting legacy in Graham’s name, shining a light on those who, like him, have devoted themselves to improving lives and strengthening the voluntary sector for the long term.Supported by:
The Bower Trust
Graham Benfield outstanding achievement:
2026 Winner
2026 Winner
Marco Gil-Cervantes
Mae Marco yn dderbynnydd cyntaf teilwng o Wobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield am ei arweinyddiaeth ragorol dros 30 mlynedd yn y sector gwirfoddol yng Nghymru.
