Mae’r wobr hon yn anrhydeddu mudiadau sydd wedi mynd y tu hwnt i’w nodau craidd i ymwreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth ym mhopeth y maen nhw wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Rydyn ni eisiau cydnabod ymdrechion sy’n herio anghydraddoldeb ac yn gyrru newid diwylliannol. Waeth a yw wedi’i wneud drwy bolisi, ymarfer neu fentrau arloesol, dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos effaith ystyrlon eu gwaith ar bobl a chymunedau.
Darllenwch fwy am Hyrwyddwr amrywiaeth
Hyrwyddwr amrywiaeth:
Enillydd 2025

KIRAN Cymru

Mae KIRAN Cymru yn fudiad llawr gwlad bychan ond dylanwadol yng Nghymru sy’n ymladd hiliaeth drwy brosiectau amrywiol.

Mae’r wobr hon yn taflu goleuni ar unigolion, timau neu fudiadau sydd wedi gwneud ymdrech eithriadol yn ddiweddar i godi arian neu gynhyrchu incwm.

Rydyn ni’n chwilio am weithredwyr creadigol a phobl sy’n meddwl yn strategol sydd nid yn unig wedi denu arian hanfodol drwy eu hymdrechion, ond sydd hefyd wedi gosod y sylfaen ar gyfer ymdrechion codi arian llwyddiannus yn y dyfodol a chyflwyno buddion ehangach. Dywedwch wrthym ni sut gwnaeth eu syniadau, cynlluniau a’u gweithrediad arwain at lwyddiant a chael effaith bositif ar eu hachos, mudiad neu gymuned.
Darllenwch fwy am Godwr arian y flwyddyn
Codwr arian y flwyddyn:
Enillydd 2025

Ymddiriedolaeth y Plwyf

Gwnaeth Ymddiriedolaeth y Plwyf drawsnewid argyfwng posibl yn llwyddiant codi arian anhygoel, ar ôl codi dros £300,000 i adnewyddu cartref oedd newydd ei roi iddynt, Neuadd y Bryn.

Mae’r wobr hon yn dathlu mudiadau sydd wedi gwneud gwahaniaeth mesuradwy i iechyd a lles meddyliol neu gorfforol pobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Boed hynny drwy wasanaethau, ymgyrchoedd neu allgymorth creadigol, rydyn ni’n chwilio am ymdrechion sydd wedi mynd y tu hwnt i nodau craidd y mudiad. Dywedwch wrthym ni sut mae’r gwaith hwn wedi arwain at welliannau go iawn ym mywydau pobl a’r dulliau arloesol a ddefnyddiwyd i gyflawni hynny.
Darllenwch fwy am Iechyd a lles
Iechyd a lles:
Enillydd 2025

Tŷ Brynawel

Elusen adfer ar ôl caethiwed arbenigol yn Rhondda Cynon Taf yw Tŷ Brynawel sydd wedi cefnogi 190 o bobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon drwy driniaeth ac ôl-ofal preswyl.

Mae’r wobr hon yn cydnabod mudiadau bach ond beiddgar (gyda llai na £250,000 o incwm blynyddol) sy’n perfformio’n well na’r disgwyl.

Rydyn ni eisiau clywed am sut mae eich tîm wedi cyflawni pethau gwych yn ystod y flwyddyn ddiwethaf — o ddylanwadu ar bolisi neu ymarfer i greu newid mawr gydag adnoddau cyfyngedig. Dangoswch i ni sut mae eich arloesedd, cydweithrediad a’ch defnydd o brofiadau bywyd wedi cael effaith ystyrlon.
Darllenwch fwy am Fudiad bach mwyaf dylanwadol
Mudiad bach mwyaf dylanwadol:
Enillydd 2025

BulliesOut

Gyda dim ond dau aelod rhan-amser o staff, dau hyfforddwr a 15 o wirfoddolwyr, mae BulliesOut wedi bod yn ‘ffagl gobaith’ i 19,000 o blant ar draws 155 o ysgolion yn 2024.

Mae’r wobr hon yn mynd i fudiad sy’n dangos rhagoriaeth ym mhob maes – effaith, arweinyddiaeth, llywodraethu, arloesedd a chynhwysiant.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bydd y mudiad hwn wedi cyflawni canlyniadau rhagorol a chreu newid positif, parhaol i unigolion neu gymunedau. Dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos sut maen nhw wedi cynnal safonau uchel wrth gofleidio arloesedd, gwydnwch, cydraddoldeb, amrywiaeth, gwrth-hiliaeth a’r Gymraeg – a chael effaith ystyrlon ar yr un pryd.
Darllenwch fwy am Fudiad y flwyddyn
Mudiad y flwyddyn:
Enillydd 2025

ScoutsCymru

Mae ScoutsCymru wedi’i enwebu am ei arweinyddiaeth fodern a’i lywodraethiant arloesol.

Mae’r wobr hon yn dathlu mudiadau sydd wedi mynd yr ail filltir i hybu a dathlu’r Gymraeg.

Rydyn ni’n edrych am ymdrechion sy’n ystyried ac yn dathlu’r Gymraeg o fewn gwasanaethau a diwylliant y mudiad mewn ffyrdd ystyrlon ac effeithiol. Dylai’r rheini sy’n cael eu henwebu ddangos sut maen nhw wedi cynllunio eu gweithgareddau gan ystyried yr iaith a’r gwahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud i ddefnyddwyr gwasanaethau a’r gymuned ehangach.
Darllenwch fwy am Ddefnydd o'r Gymraeg
Defnydd o’r Gymraeg:
Enillydd 2025

GISDA

Mae GISDA wedi mynd y tu hwnt i'w nodau craidd i hyrwyddo'r Gymraeg eleni gyda Chomisiynydd y Gymraeg eisoes wedi dewis y mudiad ar gyfer Wythnos Cynnig Cymraeg.

Mae’r wobr hon yn dathlu unigolion hynod sydd wedi gwneud gwahaniaeth pwerus a pharhaol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy eu gwirfoddoli.

Waeth a ydynt wedi ysbrydoli eraill, cymryd yr awenau, neu fynd yr ail filltir yn ddistaw bach, rydyn ni eisiau clywed am sut mae’r pethau y maen nhw wedi’u gwneud wedi cael effaith ystyrlon, go iawn. Dylai’r rheini a enwebir ddangos sut mae eu hymroddiad wedi achosi newid positif i unigolion, cymunedau neu’r amgylchedd – yn arbennig drwy ymdrech eithriadol a mynd y tu hwnt i bob disgwyl.
Darllenwch fwy am Wirfoddolwr y flwyddyn (26 oed neu’n hŷn)
Gwirfoddolwr y flwyddyn (26 oed neu’n hŷn):
Enillydd 2025

Mojisola Olateju

Mojisola Olateju is a dedicated Swansea-based volunteer for several organisations who is nominated by the African Community Centre for her role supporting women from Black, Asian, and Minority Ethnic backgrounds.

Mae’r wobr hon yn cydnabod pobl ifanc eithriadol sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy eu gwirfoddoli.

Waeth a ydynt wedi bod yn arwain yn feiddgar, yn cynorthwyo y tu ôl i’r llenni neu’n sbarduno newid, rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr ifanc sydd wedi mynd yr ail filltir i gael effaith go iawn. Rydyn ni eisiau gweld sut mae’r pethau y maen nhw wedi’u gwneud wedi gwella bywydau, ysbrydoli eraill a gwneud cymunedau’n gryfach – yn hytrach na’r oriau y maen nhw wedi gweithio.
Darllenwch fwy am Wirfoddolwr ifanc y flwyddyn (25 oed neu’n iau)
Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed neu iau):
Enillydd 2025

Francesco Lanzi

Undeb Aberystwyth
Mae Francesco Lanzi yn gwirfoddoli i liaws o fudiadau, gan gynnwys Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, St John Ambulance a Cymru Sport.
cyWelsh