Mae’r wobr hon yn anrhydeddu unigolion sydd wedi cael effaith arbennig a pharhaol ar y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mae’n bleser gennym gyflwyno Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield fel rhan o Wobrau Elusennau Cymru. Mae’r anrhydedd arbennig hon yn cydnabod unigolion sydd wedi cael effaith arbennig a pharhaol ar y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Roedd Graham Benfield yn llais hynod ddylanwadol dros bobl a chymunedau yng Nghymru, a chafodd effaith eithriadol ar y sector gwirfoddol, yn genedlaethol a thu hwnt. Fel Prif Weithredwr CGGC rhwng 1989 a 2014, treuliodd 25 o flynyddoedd yn gweddnewid y dirwedd i fudiadau gwirfoddol, gan hyrwyddo cydweithio, cryfhau strwythurau cymorth a helpu’r sector i dyfu o ran hyder ac effaith.

Mae’r wobr hon yn dathlu’r rheini y mae eu cyfraniad wedi mynd uwchlaw un prosiect neu foment. Mae’n cydnabod unigolion y mae eu hymroddiad, brwdfrydedd ac arweinyddiaeth wedi gwneud gwahaniaeth ystyrlon a pharhaol i gymunedau ledled Cymru. Mae’r wobr yn adlewyrchu’r gwerthoedd y gwnaeth Graham eu hymgorffori drwy gydol ei oes: anhunanoldeb, gonestrwydd a chred ddiysgog mewn pŵer pobl i greu newid positif.

Trwy sefydlu’r wobr hon, rydym yn gobeithio creu etifeddiaeth yn enw Graham, gan amlygu’r rheini sydd, fel ef, wedi ymroi eu hunain i wella bywydau a chryfhau’r sector gwirfoddol am yr hirdymor.

Cyflwyno eich enwebiad
cyWelsh