Mia Harris-Jones
Mae Mia Harris-Jones yn llysgennad gwirfoddol 17 mlwydd oed yn Ysbyty Plant Arch Noa a hefyd yn derbyn triniaeth am lewcemia.
2025
Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed neu iau)
(Finalydd)
Mae Mia wedi gwneud cyfraniad helaeth. Mae wedi:
• codi dros £13,000
• bod yn ‘chwaer fawr’ i gleifion iau
• codi ymwybyddiaeth drwy ddogfennu ei thaith gyda 60,000 o bobl ar TikTok
• creu archarwyr wedi’u hysbrydoli gan gleifion sydd wedi arwain at rasys codi arian hwyl
Mae hefyd wedi dylanwadu ar bolisïau gofal iechyd drwy Banel Ieuenctid Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.